Music Prepartation Samples Cleftec Music Preperation Samples
Hafan
Amdanom ni English Cysylltwch


Lleolir Clef-tec yn un o unedau masnach Canolfan y Celfyddydau ar gampws Prifysgol Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru. Darparwn wasanaeth proffesiynol yn cynhyrchu cysodiadau cerddoriaeth o'r safon uchaf ar gyfer cyhoeddi, recordio a pherfformio. Mae gennym dros 15 mlynedd o brofiad proffesiynol mewn paratoi a chopïo cerddoriaeth felly medrwch ymddiried ynom i gynhyrchu deunydd o safon uchel i'ch amserlen chi.

Meddwn ar brofiad helaeth o gysodi deunydd yn yr iaith Gymraeg ar gyfer ei gyhoeddi. Mae ein cynyrchiadau diweddar yn cynnwys y detholiadau cerddorol ar gyfer y gyfrol 'Welsh Traditional Music' gan Phyllis Kinney sydd ar fin cael ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.

Yn ogystal â chynnig gwasanaeth paratoi cerddoriaeth, darparwn hefyd ystod eang o wasanaethau cerddorol eraill, yn cynnwys:

  • Fersiynau clywedol o gerddoriaeth brintiedig
  • Cynhyrchu rhan/nau o brif sgôr
  • Trawsnewid ffeiliau MIDI i sgôr orffenedig parod i'w phrintio
  • Creu ffeiliau MIDI allan o gerddoriaeth brintiedig
  • Trawsgyweirio
  • Laser-argraffu sgoriau hyd at faint A3
  • Tacluso a phroflennu ffeiliau Sibelius sydd eisioes mewn bod

Pennaeth Clef-tec yw Ric Lloyd, cyfansoddwr, gwobrwyedig gan BAFTA, gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad ym myd busnes cerddorol y DU. Ers iddo gwblhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth (lle'r oedd yn aelod o 'Y Blew') mae wedi gweithio'n gyson fel cyfansoddwr, perfformiwr/trefnydd a chopïwr a chysodwr cerddoriaeth. Mae gan dîm Clef-tec brofiad cerddorol a chyfrifiadurol helaeth o baratoi darnau cerddorol ar gyfer cyhoeddi a pherfformio'n fyw. Medr Clef-tec ddelio ag unrhyw gyfansoddiad cerddorol, o waith simffonig cyflawn, neu operatig, hyd at ddarn byr o gerddoriaeth offerynnol.

 
  Links | Cymraeg

Cleftec | Ffôn: 01974 282515 | Ebost: cleftec@fmail.co.uk

Corynweb Design